WQ97105 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/08/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y gwaith i ddatblygu brand gwnaed yng Nghymru fel ffordd o hyrwyddo pobl a busnesau yng Nghymru i brynu cynnyrch a gwasanaethau Cymreig?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg | Wedi'i ateb ar 22/08/2025

Mae pileri Brand Cymru Wales yn mynd ati yn barhaus i hyrwyddo cynhyrchion Cymru ar draws amrediad amrywiol o sectorau i gynulleidfaoedd domestig a rhyngwladol. Mae’r gwaith hwn yn amlinellu’r dalent, y sgiliau a’r creadigrwydd sydd i’w gweld yng Nghymru, gan weithio ar y cyd â phrif frandiau Cymru a rhwydwaith byd-eang Llywodraeth Cymru o swyddfeydd. Mae hyn yn cynnwys cymryd rhan mewn digwyddiadau, arddangosfeydd a hyrwyddiadau – fel Expo 2025 yn Japan.

Mae nifer o fentrau ar waith i annog busnesau a’r cyhoedd i brynu cynhyrchion o Gymru. Mae’r rhain yn cynnwys pwyslais Croeso Cymru ar greu ymdeimlad o le mewn profiadau ymwelwyr a darparu pecyn cymorth Twristiaeth Bwyd ar gyfer busnesau. Mae Bwyd a Diod Cymru hefyd yn gweithredu ymgyrchoedd cyfathrebu ac ymgysylltu â’r cyfryngau i annog manwerthwyr a darparwyr llety i gaffael a stocio cynhyrchion o Gymru, wedi’u hategu gan ymchwil Gwerth Cymreictod flynyddol sy’n dangos galw cryf ymhlith defnyddwyr am nwyddau o Gymru.

Mae Deddf Caffael 2023 a Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yn ceisio creu prosesau caffael cyhoeddus mwy hygyrch a thryloyw ar gyfer busnesau bach a chanolig a sectorau trydydd sector yng Nghymru. Dylai hyn ei gwneud yn haws i’r sefydliadau hynny gystadlu am gontractau sector cyhoeddus. Mae Rhan 3 o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus, sy’n cael ei gosod ddechrau’r flwyddyn nesaf, hefyd yn cyflwyno metrigau sy’n caniatáu i awdurdodau contractio fesur ac adrodd ar eu cynnydd yn erbyn nodau llesiant. Mae Tîm Cyflawni Masnachol a Chaffael Llywodraeth Cymru yn gosod ac yn rheoli rhaglen o 31 cytundeb caffael cydweithredol a ddefnyddir ar draws Sector Cyhoeddus Cymru ac mae’n cael ei hyrwyddo’n weithredol fel rhan o Biblinell Caffael Cydweithredol Cymru sy’n hyrwyddo cytundebau cydweithredol yng Nghymru, gan Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill Cymru. Gyda’i gilydd mae’r camau gweithredu yn hyrwyddo prynu cynhyrchion a gwasanaethau o Gymru.

Mae Busnes Cymru yn cefnogi entrepreneuriaeth a thwf busnesau, gan gynnig arweiniad a chymorth ar gyfer caffael i helpu cwmnïau o Gymru i gael mynediad at gadwyni cyflenwi’r sector cyhoeddus ac ehangu eu mynediad at y farchnad.