WQ97104 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/08/2025

Pryd fydd gorchmynion cychwyn yn cael eu gwneud er mwyn dod â’r dyletswyddau caffael yn y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 i fodolaeth?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol | Wedi'i ateb ar 12/08/2025

Yn gynharach eleni, gwnaed y gorchymyn cychwyn i ganiatáu inni ddatblygu’r is-ddeddfwriaeth, y canllawiau ar gyfer caffael cymdeithasol gyfrifol, y cymalau ar gyfer gweithiau cyhoeddus a materion y gweithlu, a chod newydd ar gyfer allanoli gwasanaethau. Ym mis Gorffennaf, dechreuwyd ymgynghoriad cyhoeddus tri mis ar y rheoliadau drafft. Mae disgwyl i weddill y gorchmynion cychwyn gael eu gwneud tua dechrau 2026.