WQ97100 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/08/2025

A yw’r Llywodraeth yn parhau’n ymrwymedig i wireddu’r addewid i gynhyrchu rhestr er mwyn blaenoriaethu’r gwaith o gyflwyno rhagor o safonau o dan atodlenni'r Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a chwblhau gweithredu'r Mesur yn llawn, ac os felly pryd y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn rhagweld cyhoeddi’r rhestr?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg | Wedi'i ateb ar 18/08/2025

Rydym yn ystyried pa sectorau a chyrff o’r Atodlenni i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 y dylid eu blaenoriaethu ac rydym yn gwneud hynny gan drafod â Chomisiynydd y Gymraeg. Mater i’r Llywodraeth nesaf fydd gosod y blaenoriaethau a llunio cynllun gweithredu.