A wnaiff y Llywodraeth roi diweddariad ar yr ymrwymiad i gyflwyno safonau’r Gymraeg ar drafnidiaeth gyhoeddus?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
| Wedi'i ateb ar 18/08/2025
Mae newidiadau ar droed yn niwydiant rheilffyrdd y DU, sy’n cynnwys gwasanaethau sy’n rhedeg i Gymru. Rydym yn ymchwilio i weld sut y gall Safonau’r Gymraeg ystyried y newidiadau hynny ac rydym wedi cynnal trafodaethau â rhanddeiliaid yn y sector. O ganlyniad, rydym yn bwriadu cysoni’r broses o gyflwyno safonau ar gyfer darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus â sefydlu GBR (Great British Railways). Bydd hyn yn sicrhau bod y safonau yn addas ar gyfer y cyd-destun presennol. Bydd y gwaith polisi yn parhau, gan gynnwys ystyried cynnwys darparwyr bysiau yn y rheoliadau hynny.