WQ97098 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/08/2025

Beth yw’r dyddiad targed ar gyfer cynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn i gymeradwyo rheoliad safonau’r Gymraeg y cymdeithasau tai?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg | Wedi'i ateb ar 18/08/2025

Rydym ar hyn o bryd yn ymgynghori ar reoliadau drafft ar gyfer cymdeithasau tai, a bydd yr ymgynghoriad hwnnw yn cau ar 16 Medi 2025. Rydym yn anelu i gynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn ar reoliadau terfynol yn gynnar yn 2026. Byddwn mewn sefyllfa i roi amserlen mwy manwl unwaith y byddwn wedi dadansoddi ac ystyried ymatebion i’r ymgynghoriad.