Faint o argymhellion yr adolygiad annibynnol o adroddiadau adran 19 llywodraeth leol a Cyfoeth Naturiol Cymru am lifogydd eithafol yn ystod gaeaf 2020-21 sy’n parhau heb eu cwblhau a beth yw cynllun y Llywodraeth a’i hamserlen ar gyfer eu cwblhau?
Mae'r Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FCEC) wedi sefydlu gweithgor Adran 19 ac maent yn gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a phartneriaid Awdurdodau Lleol i ystyried canfyddiadau'r adolygiad. Mae hyn yn cynnwys cynnal ymgynghoriad yn yr Hydref i nodi gofynion lefel uchel i ddatblygu canllawiau ategol ar gyfer adroddiadau am ymchwilio llifogydd Adran 19.
Mae CNC yn parhau i weithio ar gyflawni'r camau sy'n weddill o'u hadolygiad mewnol i stormydd 2020. Maent yn anelu at gwblhau'r rhain erbyn diwedd y flwyddyn.