WQ97093 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/08/2025

Pryd fydd y Llywodraeth yn cyhoeddi adroddiad yr Athro Kevin Morgan a oedd yn ystyried strwythurau tymor hir posib ar gyfer adfywio economaidd yn seiliedig ar le ac iaith yn rhanbarthau Arfor a’r Cymoedd?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio | Wedi'i ateb ar 19/08/2025

Bydd adroddiad yr Athro Kevin Morgan yn cael ei rannu gyda chi cyn bo hir.

Mae'r cyllid o £11m y cytunwyd arno yn llawn wedi bod ar gael gan y Llywodraeth hon i'r rhaglen ARFOR a ymrwymwyd tan ddiwedd mis Mawrth 2025. Mae cyllid ychwanegol o £500k ar gael i'r 4 awdurdod lleol ar gyfer ARFOR ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol i ganiatáu pontio. Mae'r cam hwn o ARFOR yn gyfle i 'oedi a myfyrio' ar y rhaglen.

Bydd y gyllideb a ddyrannwyd yn darparu cyllid ar gyfer rôl barhaus cydlynydd y rhaglen i gynnal arbenigedd a momentwm, dadansoddi ac adolygu tystiolaeth gwerthuso ARFOR 2 ymhellach i ganfod y gwersi allweddol a ddysgwyd. Bydd hyn yn helpu i lywio cyfeiriad y dyfodol, gan gynnwys arfer gorau a gwneud y mwyaf o gyfleoedd i brif ffrydio'r gwersi a ddysgwyd ac egwyddorion ARFOR yn unol â chanfyddiadau ac argymhellion y Comisiwn ar gyfer Cymunedau Cymraeg, rhaglenni presennol a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a Chyd-bwyllgorau Corfforedig.

Ein nod yw parhau i gydweithio o fewn Llywodraeth Cymru yn ogystal â gyda rhanddeiliaid allweddol a pherthnasol i wella a datblygu polisïau sy'n cefnogi cymunedau Cymraeg ac yn helpu i gynnal y Gymraeg fel iaith gymunedol ffyniannus.

Byddwn yn ystyried canlyniadau'r gwerthusiad annibynnol o'r rhaglen ARFOR 2 a gynhaliwyd gan Wavehill Consulting fel rhan o'r gwaith parhaus a byddwn yn ei rannu gyda chi cyn gynted â phosibl.

Mae'r gefnogaeth ariannol ar gyfer ARFOR ar gyfer y flwyddyn ariannol hon yn cynnwys cyllid parhaus ar gyfer cydlynydd y rhaglen a gyflogir gan lywodraeth leol i gadw gwybodaeth ac arbenigedd. Darparwyd y cyllid ar gyfer ARFOR 2 yn uniongyrchol i'r awdurdodau lleol a oedd yn rheoli ac yn cyflawni'r gwahanol ymyriadau o dan y rhaglen hon - naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol trwy gontractau a gomisiynwyd gan bartneriaid cyflenwi am gyfnod o amser y cytunwyd arno. Roedd y contractau hyn rhwng yr awdurdod lleol a'r contractwyr yn uniongyrchol ar gyfer darparu gwasanaethau y cytunwyd arnynt, gan gynnwys Llwyddo'n Lleol ac ati ac felly nid ydym yn cadw gwybodaeth am nifer y staff a gyflogir gan y contractwyr i ddarparu'r gwasanaethau y cytunwyd arnynt.