WQ97081 (w) Wedi’i gyflwyno ar 30/07/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet esbonio pam nad oedd cyfeiriad at ffordd osgoi Llandeilo yn ei ddatganiad ysgrifenedig ar y rhwydwaith ffyrdd ar 17 Gorffennaf 2025?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru | Wedi'i ateb ar 07/08/2025

Gwnaeth fy natganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 17 Gorffennaf amlinellu’r camau allweddol sydd ar waith i sicrhau bod ein rhwydweithiau trafnidiaeth ar gael i bawb. Er fy mod wedi cyfeirio at rai mesurau cyffredinol sydd o fudd i bob teithiwr nid diben y datganiad hwnnw oedd mynd i’r afael â manylion penodol unrhyw gynlluniau neu raglenni unigol.

Ysgrifennais atoch cyn cyhoeddi fy natganiad ysgrifenedig ar 18 Mehefin i nodi fy mwriad i gyhoeddi bod Asiant Cyflogwr wedi’i gaffael ar gyfer y cynllun. Mewn ymateb i’ch Cwestiwn Llafar OQ62945 ar 2 Gorffennaf, nodais y gallai gwaith adeiladu cynllun Llandeilo ddechrau yn 2029, yn amodol ar gwblhau’r holl weithdrefnau statudol yn llwyddiannus. Gallai hyn gynnwys ymchwiliad lleol cyhoeddus.