WQ97078 (d) Wedi’i gyflwyno ar 30/07/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau faint o lythyrau rhybudd mewn achosion bwriadoldeb, fel y crybwyllir ym mharagraff 17.15 y ddogfen “Dyrannu Llety a Digartrefedd: Canllawiau ar gyfer Awdurdodau Lleol”, a roddwyd i unigolion ar gyfer pob un o'r tair blynedd diwethaf?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai | Wedi'i ateb ar 12/08/2025

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn awgrymu bod awdurdod lleol yn anfon llythyr at aelwydydd yn eu rhybuddio eu bod yn cael eu hystyried yn fwriadol ddigartref. Nid ydym yn casglu data mewn perthynas á nifer y llythyrau o’r fath sy’n cael eu hafnon. 

Mae’r flwyddyn lawn ddiweddaraf o ddata yn awgrymu bod 90 o aelwydydd wedi’u pennu’n rhai bwriadol ddigarttref yn 2023-24, o’i gymharu á 93 o aelwydydd yn 2022-23 a 72 o aelwydydd yn 2021-22.