WQ97076 (w) Wedi’i gyflwyno ar 30/07/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet esbonio pam nad yw Llywodraeth Cymru yn casglu data ac yn adrodd ar y niferoedd sydd ar restrau aros am dŷ cymdeithasol, yn wahanol i arfer llywodraethau yr Alban, Gogledd Iwerddon a'r Deyrnas Unedig?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai | Wedi'i ateb ar 06/08/2025

Mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn gyfrifol am reoli data ar restrau aros am dai cymdeithasol.

Nid yw Llywodraeth Cymru yn casglu nac yn gwirio data ar restrau aros am dai cymdeithasol yn rheolaidd. Rydym yn archwilio dichonoldeb casglu amcangyfrifon o aelwydydd ar restrau aros am dai cymdeithasol drwy Arolwg Tai yn y dyfodol a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar hyn maes o law.