Ymhellach i’w gohebiaeth i’r Pwyllgor Tai a Llywodraeth Leol dyddiedig 8 Tachwedd 2024, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu (a) faint o dai sydd gan gymdeithasau tai Lloegr yng Nghymru, (b) ym mhle maent wedi'u lleoli yn ôl ardal awdurdod lleol, a (c) pa gymdeithasau tai sy'n berchen arnynt?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
| Wedi'i ateb ar 08/08/2025
Nid oes gan Lywodraeth Cymru yr wybodaeth y gofynnwyd amdani. Caiff Cymdeithasau Tai yn Lloegr sy’n berchen ar gartrefi yng Nghymru neu sy’n eu rheoli eu rheoleiddio gan y Rheoleiddiwr Tai Cymdeithasol sy’n rhan o drefn reoleiddio Lloegr.