A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu a) faint o staff y mae pob un o'r Cydbwyllgorau Corfforedig yn eu cyflogi a b) y prif feysydd gwaith ar gyfer y staff hyn?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
| Wedi'i ateb ar 31/07/2025
Nid yw Llywodraeth Cymru yn cadw gwybodaeth am nifer y staff a gyflogir a'r prif feysydd gwaith ym mhob Cyd-bwyllgor Corfforedig. Mater i bob Cyd-bwyllgor Corfforedig, a'i Swyddogion Gweithredol, yw penderfynu fel y bo’n briodol ar gyfer ei ardal, ac ar gyfer pob swyddogaeth y mae'n ei arfer, o ran y nifer o staff sydd ei angen arno i allu cyflawni ei swyddogaethau yn effeithiol.