A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar waith y Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth, gan gynnwys unrhyw gynlluniau sydd gan y grŵp i gysylltu gyda a chydweithio gyda mudiadau eraill yng Nghymru sydd wedi cynnal cynulliadau dinasyddion a gwaith ymgysylltu gyda dinasyddion?
Mae cydweithio yn egwyddor allweddol sy'n sail i ddull gweithredu’r Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth. Mae’r Grŵp yn cydnabod gwerth cydweithio â sefydliadau ledled Cymru sydd â phrofiad o gynulliadau dinasyddion, prosesau cydgynghorol ac ymgysylltu ehangach â'r cyhoedd, a dysgu oddi wrth y sefydliadau hynny.
Bydd y Grŵp yn cydweithio ag amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys ym maes llywodraeth leol, cymdeithas sifil a'r byd academaidd, i adeiladu ar arferion presennol a sicrhau bod ei waith yn cael ei lywio gan yr hyn sydd eisoes wedi'i gyflawni yng Nghymru.
Rwy'n bwriadu cyhoeddi rhaglen waith y Grŵp yn y dyfodol agos.