WQ97002 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/07/2025

A oes gan Lywodraeth Cymru fap o'r holl dir sydd ym mherchnoaeth y sector cyhoeddus yng Nghymru?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai | Wedi'i ateb ar 01/08/2025

Cofrestra Tir Ei Fawrhydi (HMLR) sy’n gyfrifol am gofrestru tir yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys eiddo ym mherchnogaeth y sector cyhoeddus.

Mae Llywodraeth Cymru wedi prynu copïau o ffeiliau ffiniau’r Gofrestra Tir at ein defnydd ein hunain ar system fapio o’r enw ‘DataMapWales’. Mae gwaith wedi’i wneud i brosesu data crai y Gofrestra Tir i gategoreiddio tir yn ôl perchnogaeth gan Weinidogion Cymru, Sector Cyhoeddus Cymru, Addysg, neu unrhyw berchnogaeth gyhoeddus arall. Fodd bynnag, nid oes fersiwn sydd ar gael i’r cyhoedd ar hyn o bryd.