WQ97000 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/07/2025

Pa ganran o gatrefi Cymru sydd gyda phaneli solar wedi'u gosod?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai | Wedi'i ateb ar 01/08/2025

Mae’r Cynllun Tystysgrifau Microgynhyrchu (MCS) yn dyroddi tystysgrifau achredu i osodiadau gwaith datgarboneiddio ar raddfa fach, fel paneli solar ar y to. Ers iddo ddechrau gwneud hynny yn 2007, mae 119,672 o baneli solar domestig achrededig wedi’u gosod, sy’n cyfateb i tua 8.5% o gartrefi yng Nghymru. Mae 12,347 o’r gosodiadau hynny wedi digwydd yn y flwyddyn galendr hon yn unig.

Caiff dangosfwrdd data MCS ei ddiweddaru’n rheolaidd ac mae modd ei weld yma: Gwybodaeth am Ddangosfwrdd Data MCS