WQ96999 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/07/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi trosolwg o'r cynllun Rhentu i Brynu yn hanesyddol a'r graddau y mae'r cynllun yn dal yn weithredol?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai | Wedi'i ateb ar 01/08/2025

Roedd y cynlluniau ‘Rhentu i Brynu: Cymru’ a ‘Rhanberchnogaeth: Cymru’ yn rhedeg o fis Chwefror 2018 hyd 31 Mawrth 2021. Darparodd Llywodraeth Cymru £50m ar gyfer y cynlluniau a chefnogi 876 o aelwydydd i ddod yn berchen ar gartref. Rydym yn parhau i gefnogi perchentyaeth drwy gynlluniau fel ‘Cymorth i Brynu – Cymru’ a ‘Prynu Cartref – Cymru’.