WQ96989 (w) Wedi’i gyflwyno ar 23/07/2025

Faint o a) cyfreithwyr a b) bargyfreithwyr sydd yn ymarfer yng Nghymru?

Wedi'i ateb gan Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni | Wedi'i ateb ar 01/08/2025

Yn ôl ffigurau a ddarparwyd gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr, roedd 3,904 o gyfreithwyr â thystysgrifau ymarfer yng Nghymru ym mis Tachwedd 2024, sef y dyddiad diweddaraf y mae'r wybodaeth hon ar gael ar ei gyfer.

Yn ôl ffigurau a ddarparwyd gan Fwrdd Safonau'r Bar, ar hyn o bryd mae 379 o fargyfreithwyr â chyfeiriad ymarfer yng Nghymru.