WQ96981 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/07/2025

A oes amserlen wedi'i gynnwys yng ngytunebau datblygwyr i gwblhau gwaith atgyweirio adeiladau diffygiol o ran diogelwch adeiladau, ac os nad, pam?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai | Wedi'i ateb ar 31/07/2025

Trwy lofnodi contract gyda Llywodraeth Cymru, mae datblygwyr wedi ymrwymo i wneud gwaith adfer i ddatrys problemau o ran diogelwch rhag tân mewn adeiladau 11 metr neu uwch y maent yn gyfrifol amdanynt. Mae’r contractau hyn yn gysylltiedig â nifer o ddatblygiadau yn hytrach nag adeilad penodol yn achos y rhan fwyaf o ddatblygwyr. Caiff y gwaith adfer ei fonitro’n ofalus a chaiff data am hyn ei gyhoeddi’n rheolaidd o fewn ein cylchlythyr Diogelwch Adeiladau.

Mae’r cylchlythyr diweddaraf ar gael yma: Rhaglen Diogelwch Adeiladau Cymru: Cylchlythyr | LLYW.CYMRU