Beth yw asesiad diweddaraf yr Ysgrifennydd Cabinet o effaith bosib Bil Hawliau Rhentwyr Llywodraeth y DU ar lywodraethiant a hawliau unigolion yng Nghymru?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
| Wedi'i ateb ar 23/07/2025
Mae'r nifer fach o ddarpariaethau yn y Bil sy'n effeithio'n uniongyrchol ar Gymru yn parhau i fod yn rhai y cytunodd y Senedd i roi cydsyniad deddfwriaethol iddynt ar 20 Mai 2025.
Bydd y darpariaethau sy'n ymwneud â diogelu rhag gwahaniaethu yn gwella hawliau pob tenant sy'n cael budd-daliadau a'r rhai hynny sydd â phlant yn ddirfawr.