A yw Llywodraeth Cymru yn gallu dangos bod digon o oruchwyliaeth annibynnol o drefniadau diogelu mewn sefydliadau crefyddol yng Nghymru yn sgil datganiad diweddar Comisiynydd Plant Cymru fod diffyg llwyr o oruchwyliaeth annibynnol o drefniadau diogelu mewn sefydliadau crefyddol'?
Rydym wedi nodi disgwyliadau clir i bob sefydliad, gan gynnwys y rhai sy'n gweithredu mewn lleoliadau ffydd, drwy "Gweithio gyda'n Gilydd i Ddiogelu Pobl: Cod Ymarfer Diogelu". Mae'r Cod hwn yn amlinellu:
- Egwyddorion diogelu craidd
- Safonau ar gyfer recriwtio, hyfforddi ac adrodd yn ddiogel
- Canllawiau ar greu amgylcheddau diogel a chefnogol i blant ac oedolion sy’n wynebu risg
Disgwylir i sefydliadau ffydd lynu wrth y Cod hwn fel rhan o'u cyfrifoldebau diogelu.
Mae adran 5 o Weithdrefnau Diogelu Cymru yn darparu canllawiau penodol ar reoli honiadau neu bryderon am unigolion mewn swyddi o ymddiriedaeth, gan gynnwys arweinwyr ffydd a gweithwyr crefyddol. Mae'r gweithdrefnau hyn yn berthnasol i unrhyw un sy'n gweithio gyda phlant neu oedolion sy’n wynebu risg, p’un a ydynt yn gweithio am dâl neu'n wirfoddol.
Er bod y fframweithiau hyn yn sefydlu disgwyliadau clir a chyson, nid oes unrhyw gorff statudol unigol yng Nghymru ar hyn o bryd yn gyfrifol am oruchwyliaeth annibynnol o drefniadau diogelu mewn sefydliadau crefyddol.
Rydym wrthi’n ymgysylltu â sefydliadau ffydd mewn ymateb i argymhellion yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol. Rydym yn ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael i gryfhau goruchwyliaeth o ddiogelu.
Rydym wedi datblygu Strategaeth Genedlaethol ddeng mlynedd ar gyfer Atal ac Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol, a hynny mewn ymateb i adborth gan randdeiliaid. Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn dod i ben ar 8 Hydref 2025.