WQ96969 (w) Wedi’i gyflwyno ar 17/07/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod rhieni sydd mewn galar ac sydd angen cymorth seicolegol arbenigol yn dilyn beichiogrwydd neu golli babi yn gallu cael mynediad iddo, ar unrhyw adeg, yn rhad ac am ddim, drwy'r GIG?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 24/07/2025

Mae colli babi yn ystod beichiogrwydd neu yn fuan ar ôl ei eni yn brofiad trawmatig iawn. Mae gofal profedigaeth wedi'i gynnwys yn rhan o o’r polisi mamolaeth a newyddenedigol cenedlaethol, sy’n sicrhau bod rhieni yn gallu cael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt ar unrhyw adeg, a hynny am ddim, drwy system dosturiol, strwythuredig syddd wedi’i hariannu'n dda.

Mewn cydweithrediad â sefydliadau'r trydydd sector fel SANDS, yr elusen beichiogrwydd a cholli babanod, a Child Bereavement UK, mae cymorth seicolegol a chymorth profedigaeth ar gael drwy GIG Cymru. Mae’r gwasanaethau yn cynnwys cwnsela, cefnogaeth cymheiriaid, ac ymyriadau seicolegol arbenigol – y cyfan yn hygyrch heb unrhyw gost i deuluoedd.

Mae'r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Profedigaeth yn sicrhau cymorth cyson o ansawdd uchel ledled Cymru. Wedi’i gefnogi gan £1.4 miliwn o gyllid i fyrddau iechyd a phartneriaid trydydd sector, mae'n pwysleisio ymyrraeth gynnar, integreiddio ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, a monitro cadarn i sicrhau tegwch ac ansawdd.

Ar ben hynny, mae’r Rhwydwaith Mamolaeth a Newyddenedigol, sy'n rhan o Perfformiad a Gwella GIG Cymru, wedi bod yn gweithio gyda SANDS i gefnogi gwaith ar y pum llwybr profedigaeth. Mae'r gwaith wedi canolbwyntio ar gamesgoriad, terfynu beichiogrwydd oherwydd anomaledd ar y ffetws, marw-enedigaeth, marwolaeth newyddenedigol a marwolaeth annisgwyl sydyn yn ystod babandod. Disgwylir i'r llwybrau gael eu cyhoeddi yn yr Hydref.