Sawl gwaith, ac ar ba ddyddiadau, mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi cwrdd ag aelodau'r Panel Arbenigol Llythrennedd ers ei ffurfio ym mis Rhagfyr 2024?
Mae’r Panel Arbenigol Llythrennedd wedi cyfarfod chwech o weithiau ar 11 Tachwedd 2024, 11 Rhagfyr 2024, 22 Ionawr 2025, 20 Chwefror 2025, 21 Mai 2025 a 9 Gorffennaf 2025. Diben y panel yw darparu cyngor a chefnogaeth anffurfiol cyson sydd wedi cael effaith uniongyrchol ar y ffordd yr eir i’r afael â llythrennedd.
Mae’r Panel Arbenigol Llythrennedd wrthi’n datblygu egwyddorion ar gyfer addysgu iaith a llythrennedd, ar sail tystiolaeth. Bydd yr egwyddorion hyn yn llywio sesiynau dysgu proffesiynol a’r adnoddau a ddatblygir, gan sicrhau dulliau addysgu effeithiol. Yn benodol, mae’r panel yn helpu i ddatblygu disgwyliadau clir iawn ar gyfer addysgu ffoneg.
Mae’r panel wedi llywio’r gwaith o ddatblygu disgwyliadau a gofynion o ran y sesiynau dysgu proffesiynol a ddarperir drwy Raglen Cymorth Grant Cwricwlwm i Gymru. Mae’r panel hefyd yn llywio’r gwaith o ddatblygu disgwyliadau manylach sy’n ymwneud â dysgu, a’r adolygiad sy’n parhau o elfen lythrennedd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd.
Cyfarfu aelodau o’r Panel Arbenigol Llythrennedd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar 19 Mehefin 2025.