WQ96907 (w) Wedi’i gyflwyno ar 10/07/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ehangu'r rhaglen brentisiaeth iau, o ran a) nifer y dysgwyr ledled Cymru a b) cyflwyno'r rhaglen i fwy o golegau addysg bellach?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Wedi'i ateb ar 23/07/2025

Mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio’n agos â Medr i ehangu darpariaeth Prentisiaethau Iau ledled Cymru i’r colegau hynny sy’n dymuno eu cynnig.

Rwyf wedi cynyddu cyllideb Prentisiaethau Iau 50% i £600,000 yn 2025/6, gan alluogi mwy o golegau i gynnig mwy o leoliadau ar y rhaglen. Mae Medr mewn trafodaethau â dau goleg ychwanegol i ddechrau cynnig Prentisiaethau Iau o fis Medi 2025.