WQ96902 (w) Wedi’i gyflwyno ar 10/07/2025

Faint o athrawon newydd gafodd eu recriwtio yng Nghymru ar ôl cwblhau eu cwrs AGA ar gyfer pob un o'r pum blwyddyn academaidd diwethaf, wedi'u rhannu yn ôl cynradd ac uwchradd?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Wedi'i ateb ar 23/07/2025

Roedd cyfanswm nifer dymunol Llywodraeth Cymru o athrawon newydd drwy Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer pob un o'r pum blwyddyn academaidd diwethaf fel a ganlyn:

Blwyddyn Academaidd

Ysgolion Cynradd

Ysgolion Uwchradd

2020/21

724

1003

2021/22

662

948

2022/23

662

948

2023/24

631

1109

2024/25

653

1056

Mae gwybodaeth am y gweithlu addysgu ar gael yn y cyfrifiad blynyddol o'r gweithlu ysgolion sydd ar wefan StatsCymru yma: Athrawon (CBGY)

Gellir dod o hyd i ddata am geisiadau ar wefan UCAS: https://www.ucas.com/data-and-analysis. Dylid nodi nad yw pob Partneriaeth Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) yng Nghymru yn defnyddio UCAS, a bod rhai Partneriaethau AGA yn cefnogi ceisiadau gan UCAS a rhai gan ymgeiswyr yn uniongyrchol.