Beth oedd cyfanswm stoc dymunol Llywodraeth Cymru o athrawon newydd ar gyfer pob un o'r pum blwyddyn academaidd diwethaf, wedi'i ddadansoddi yn ôl cynradd ac uwchradd?
Roedd cyfanswm nifer dymunol Llywodraeth Cymru o athrawon newydd drwy Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer pob un o'r pum blwyddyn academaidd diwethaf fel a ganlyn:
|
Blwyddyn Academaidd |
Ysgolion Cynradd |
Ysgolion Uwchradd |
|
2020/21 |
724 |
1003 |
|
2021/22 |
662 |
948 |
|
2022/23 |
662 |
948 |
|
2023/24 |
631 |
1109 |
|
2024/25 |
653 |
1056 |
Mae gwybodaeth am y gweithlu addysgu ar gael yn y cyfrifiad blynyddol o'r gweithlu ysgolion sydd ar wefan StatsCymru yma: Athrawon (CBGY)
Gellir dod o hyd i ddata am geisiadau ar wefan UCAS: https://www.ucas.com/data-and-analysis. Dylid nodi nad yw pob Partneriaeth Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) yng Nghymru yn defnyddio UCAS, a bod rhai Partneriaethau AGA yn cefnogi ceisiadau gan UCAS a rhai gan ymgeiswyr yn uniongyrchol.