Faint o unigolion sydd wedi derbyn taliadau gan y cynllun cymhelliant lleiafrifoedd ethnig ers ei sefydlu, wedi'i ddosbarthu yn ôl blwyddyn academaidd, a faint sy'n parhau i addysgu yng Nghymru?
Ym mlwyddyn academaidd 2022/23, derbyniodd llai na phum unigolyn daliad Statws Athro Cymwysedig o’r tri chynllun cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon. Ym mlwyddyn academaidd 2023/24, ni dderbyniodd unrhyw un y taliadau hyn ar gyfer pob un o’r tri chynllun. Nid yw’r ffigurau hyn yn cynnwys unigolion sydd wedi gadael yn ystod y flwyddyn academaidd neu wedi methu â chael Statws Athro Cymwysedig, neu’n fyfyrwyr rhan-amser ym mlwyddyn ariannol AY 2023/24 ac o’r herwydd heb orffen ei cwrs Addysg Gychwynnol Athrawon.
Mae’r tabl isod yn dangos faint o unigolion ym mhob blwyddyn academaidd sydd wedi derbyn taliad o bob cynllun cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon, wedi’u talgrynnu i’r pump agosaf.
|
|
*Pwnc â Blaenoriaeth * |
Ethnig Leiafrifol** |
Iaith Athrawon Yfory*** |
|
Blwyddyn academaidd 2018/19 |
Cynllun blaenorol |
Ddim ar gael |
60 |
|
Blwyddyn academaidd 2019/20 |
Cynllun blaenorol |
Ddim ar gael |
95 |
|
Blwyddyn academaidd 2020/21 |
Cynllun blaenorol |
Ddim ar gael |
130 |
|
Blwyddyn academaidd 2021/22 |
Cynllun blaenorol |
Ddim ar gael |
105 |
|
Blwyddyn academaidd 2022/23 |
165 |
35 |
75 |
|
Blwyddyn academaidd 2023/24 |
180 |
50 |
85 |
|
Blwyddyn academaidd 2024/25 |
135 |
Ddim ar gael |
Ddim ar gael |
* Mae’r Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth wedi bod ar gael yng Nghymru ar ryw ffurf ers cyn dyddiau datganoli, ac mae wedi bod trwy nifer o newidiadau dros y ddeng mlynedd ar hugain diwethaf. Daeth y gyfres ddiweddaraf o newidiadau mawr i rym ym mlwyddyn academaidd 2022/23, pan symleiddiwyd y cynllun a diwygiwyd y strwythur taliadau i gynnwys cwblhau’r cyfnod sefydlu statudol ar gyfer y taliad terfynol. Dengys y ffigurau yn y tabl nifer yr unigolion a dderbyniodd y taliad cyntaf yn ystod ei blwyddyn Addysg Gychwynnol i Athrawon ar ôl cwblhau’r tymor cyntaf (mae hyn yn is na’r nifer sydd wedi’u cofrestru ar y cynllun oherwydd bod rhai myfyrwyr yn gadael o fewn y tymor cyntaf, ac oherwydd hynny yn anghymwys). Mae’r ffigurau hefyd yn cynnwys myfyrwyr TAR rhan-amser sy’n derbyn eu taliad cyntaf yn ystod blwyddyn gyntaf ei rhaglen TAR.
** Mae’r Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon ar gyfer Rhai o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol ar gael ers blwyddyn academaidd 2022/23. Dengys y ffigurau nifer yr unigolion a dderbyniodd y taliad cyntaf ar gael dyfarniad Statws Athro Cymwysedig, ac nid yw hyn wedi ei hawlio eto ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25. Mae nifer y myfyrwyr yn is na’r nifer sydd wedi’u cofrestru ar y cynllun oherwydd bod rhai myfyrwyr yn gadael yn ystod y flwyddyn academaidd neu’n methu’r rhaglen Addysg Gychwynnol i Athrawon ac felly’n anghymwys.
*** Mae’r Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory ar gael ers blwyddyn academaidd 2018/19. Mae’r ffigurau’n cynrychioli nifer yr unigolion a dderbyniodd y taliad cyntaf, a wnaed ar gael dyfarniad Statws Athro Cymwysedig, lle gwnaed hawliadau gan fyfyrwyr cymwys. O flwyddyn academaidd 2018/19 i flwyddyn academaidd 2022/23 y myfyrwyr oedd yn gyfrifol am hawlio’r cymhelliant hwn yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Roedd nifer fach o achosion dros y blynyddoedd hynny lle na hawliwyd yr arian o fewn yr amserlen ofynnol, ac felly roedd y myfyrwyr hynny’nanghymwys. Nid yw’r ffigurau yn cynnwys y myfyrwyr hyn. O flwyddyn academaidd 2023/24, mae Partneriaethau Addysg Gychwynnol i Athrawon wedi bod yn gyfrifol am hawlio ar ran myfyrwyr cymwys. Nid yw hyn wedi digwydd eto ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25.
Rydym yn bwriadu cyhoeddi data yn nhymor yr hydref 2025 ar faint o unigolion sy’n addysgu yng Nghymru ac wedi derbyn y cymhelliant Pynciau â Blaenoriaeth, ar ôl cwblhau prosiect cysylltu data sy’n mynd rhagddo gan Gyngor y Gweithlu Addysg. Rydym yn bwriadu ailadrodd yr ymarfer hwn yn y blynyddoedd i ddod a’i ymestyn hyn i gynlluniau cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon eraill os yw adnoddau’n caniatáu i ni wneud hynny.