Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r gost sy'n gysylltiedig ag adfer cyflogau i lefelau 2010 mewn termau real ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru?
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud asesiad o’r fath, gan fod penderfyniadau ynghylch cyflog ac amodau athrawon yng Nghymru yn dilyn proses annibynnol flynyddol. Mae’r broses hon yn cynnwys cyngor ac ymchwil gan Fforwm Partneriaeth Cyflog (undebau athrawon, cyflogwyr a swyddogion Llywodraeth Cymru) ac arbenigedd annibynnol gan Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd cyflog teg a chystadleuol i bob gweithiwr addysg proffesiynol. Rydym yn hynod ymwybodol o’r pwysau ar y gweithlu addysg, yn enwedig yng nghyd-destun costau byw cynyddol a’r heriau sy’n parhau o ran recriwtio a chadw staff.
Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol er mwyn sicrhau setliadau cyflog teg, fforddiadwy a chynaliadwy, sy’n cydnabod y cyfraniad y mae athrawon yn ei wneud.