WQ96889 (w) Wedi’i gyflwyno ar 10/07/2025

Ymhellach i'r ymateb i WQ95367, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau ym mha le y mae'r map tirwedd wedi'i gyhoeddi a darparu dolen ato?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai | Wedi'i ateb ar 23/07/2025

Fel y nodwyd o'r blaen, mae Academi Wales wedi cyflwyno a chyhoeddi Map Tirwedd sy'n rhoi gwybodaeth am y rhaglenni dysgu a gynigir gan sefydliadau’r gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer staff y gwasanaethau cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru mewn un lle. Mae'r wybodaeth hon wedi'i rhestru yn ôl sector, er mwyn ei gwneud yn haws ei darllen a chyfeirio ati.

Gallwch weld yr wybodaeth hon ar wefan Academi Wales: Sefydliadau dysgu’r gwasanaethau cyhoedduss - Academi Wales ac mae’r wefan yn cynnwys tudalennau ynghylch Cyrsiau a digwyddiadau Academi Wales.