Beth yw canlyniadau y cynllun i achub y Torgoch yn Llyn Padarn, a wnaethpwyd drwy wella safleoedd silio pysgod yn afon Bala, Llanberis?
Wedi'i ateb gan Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig | Wedi'i ateb ar 24/07/2025
Mae nifer o sefydliadau, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru a Chyngor Gwynedd wedi bod yn gwneud gwaith i helpu i achub y Torgoch yn Llyn Padarn.
Mae gwaith i wella’r safleoedd silio wedi cael ei wneud, gan gynnwys adfer cynefinoedd a chael gwared ar rywogaethau goresgynnol. Mae gwaith i fonitro’r gweithgareddau hyn i achub y Torgoch yn cael ei wneud gan CNC, ac mae’r gwaith hwn yn parhau.