WQ96878 (w) Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2025

Pa bresenoldeb fydd gan Llywodraeth Cymru yn Festival Interceltique de Lorient eleni?

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog | Wedi'i ateb ar 22/07/2025

Bydd cynrychiolydd o swyddfa Llywodraeth Cymru yn Ffrainc yn mynychu'r Ŵyl Interceltique de Lorient, ac yn mynychu digwyddiadau swyddogol yr ŵyl, gan gynnwys cymryd rhan mewn digwyddiad dan arweiniad Cyngor Rhanbarthol Llydaw sy'n canolbwyntio ar y boblogaeth ar wasgar. Bydd gweithgareddau Cymreig yn yr ŵyl yn cael eu hyrwyddo eto drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Mae'r ŵyl yn rhan o berthynas llawer ehangach sydd gennym gyda rhanbarth Llydaw. Mae ein Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda’r rhanbarth yn nodi 20 mlynedd o berthynas ffurfiol. Cydweithredu diwylliannol yw un o flaenoriaethau’r cytundeb hwnnw, a'r llynedd fe wnaethom groesawu Llywydd Llydaw i Gymru i nodi'r foment hanesyddol hon.