WQ96863 (w) Wedi’i gyflwyno ar 08/07/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau fod plant sydd yn derbyn addysg gartref yn cael y cyfle i ddysgu a datblygu eu sgiliau iaith Gymraeg?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Wedi'i ateb ar 15/07/2025

Rydym yn darparu cyllid i awdurdodau lleol er mwyn iddynt gynnig pecyn o gymorth i blant sy’n cael addysg yn y cartref. Fel rhan o'r pecyn ehangach, bydd teuluoedd sy'n addysgu yn y cartref yn cael eu cyfeirio at gymorth yn Gymraeg. Ceir rhagor o wybodaeth yn y llawlyfr rhieni Addysg yn y cartref: llawlyfr i addysgwyr yn y cartref [HTML] | LLYW.CYMRU.

Er bod yn rhaid i rieni sy'n penderfynu addysgu eu plant yn y cartref fod yn barod i ysgwyddo’r cyfrifoldeb yn llawn, anogir y teuluoedd i siarad â swyddog Addysg Ddewisol yn y Cartref eu hawdurdod lleol i holi am fynediad at unrhyw gyfleoedd Cymraeg lleol. Gall awdurdodau lleol ddefnyddio eu cyllid gan Lywodraeth Cymru i ddarparu gwersi Cymraeg.

Yn ogystal, mae fy swyddogion wedi gweithio'n agos gyda Dysgu Cymru i roi cyfle i rieni sy'n addysgu yn y cartref gael mynediad at wersi Cymraeg i'w galluogi i gefnogi a datblygu sgiliau iaith Gymraeg eu plentyn. Dechreuodd y cyrsiau 10 wythnos yma i rieni ym mis Mai, gan redeg tan fis Gorffennaf 2025.