Pa fecanweithiau sydd ar waith i fonitro a yw unedau mam a babi – gan gynnwys rhai y tu allan i Gymru sy’n gwasanaethu cleifion o Gymru – yn cydymffurfio yn ymarferol â’r gofyn yn y Datganiad Ansawdd Gwasanaethau Mamolaeth bod y Gymraeg yn cael ei chynnig yn rhagweithiol?
Mae ein Datganiad Ansawdd ar gyfer Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol yn disgrifio gwasanaethau o ansawdd uchel a’r hyn y gall menywod a theuluoedd ei ddisgwyl.
Mae'n tynnu sylw at bwysigrwydd mynediad cyfartal at gymorth iechyd corfforol a meddyliol trwy gydol y daith amenedigol, waeth beth fo'u lleoliad. Gall gofal gael ei ddarparu y tu allan i fwrdd iechyd y person, a dylai pobl allu cyfathrebu yn yr iaith a’r dull o’u dewis, gyda’r Gymraeg yn cael ei chynnig yn rhagweithiol.
Mae gallu cael mynediad at wasanaethau Cymraeg, yn enwedig ar adegau bregus, yn hanfodol ar gyfer gofal sy'n canolbwyntio ar y person. Mae cyfathrebu da yn sicrhau urddas a pharch. Mae'r fframwaith Mwy Na Geiriau wedi'i gynllunio i wella gofal mewn cenedl ddwyieithog.
Disgwylir i gomisiynwyr y GIG weithio gyda darparwyr i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei darparu yn newis iaith y person, lle bynnag y bo'n ymarferol. Mae disgwyliad hefyd, wrth gomisiynu lleoliad, i’r comisiynwyr weithio gyda'r darparwr i sicrhau parhad gofal, sy'n cynnwys cefnogi anghenion iaith person. Dylid cyfeirio ceisiadau am ragor o fanylion am y broses hon at gomisiynydd perthnasol y GIG.