Pa gamau penodol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fonitro a gorfodi Safonau’r Gymraeg yn y gofal a gaiff mamau o Gymru yn Uned Mam a Babi Ysbyty’r Countess of Chester, yn enwedig o ran hawliau iaith a gofal diwylliannol briodol?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 15/07/2025
Rwy’n cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg wrth ofalu am siaradwyr Cymraeg, a’u cefnogi. O ran monitro a gorfodi cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg, mae hynny’n fater i Gomisiynydd y Gymraeg.