Sut mae anghenion clinigol ac ieithyddol mamau ardal Betsi Cadwaladr yn cael eu mesur a’u diwallu yn y canlynol: Derbyshire Healthcare NHS Foundation Trust, Greater Manchester Mental Health Foundation Trust, Anderson Ward (Lancashire Teaching Hospitals), Ribblemere (Manchester University NHS Foundation Trust), Brockington (Midlands Partnership), a Nottinghamshire Healthcare NHS Foundation Trust?
Mae disgwyl i gomisiynwyr y GIG weithio gyda darparwyr felly pan fydd gwasanaethau’n cael eu darparu y tu allan i Gymru, os yw’n ymarferol, bydd gwybodaeth yn cael ei darparu yn newis iaith yr unigolyn. Mae disgwyliad hefyd pan fydd lleoliad yn cael ei gomisiynu, y bydd comisiynwyr yn gweithio gyda’r darparwr i sicrhau parhad gofal, a bydd hyn yn cynnwys cefnogi anghenion clinigol ac ieithyddol yr unigolyn.
Dylid anfon cwestiynau am y manylion at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.