Faint o famau oedd angen gofal iechyd meddwl dwys ar ôl geni baban gafodd ofal mewn lleoliad nad oedd yn uned mam a’i phlentyn rhwng 2021 a 2024?
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru a GIG Lloegr yn cydweithio ar ddatblygu Seren Lodge. Mae trefniadau ar waith i sicrhau bod lleisiau menywod yn helpu i lywio'r cynlluniau. Mae disgwyl i'r uned fod yn gweithredu erbyn diwedd mis Hydref. Mae trefniant comisiynu tair blynedd ar waith ar gyfer darparu dau wely i drigolion o Gymru yn Seren Lodge. Bydd unrhyw drefniant ar gyfer comisiynu gwelyau yn y dyfodol yn amodol ar gytundeb ar wahân, yn ôl yr angen.
Mae ymarfer recriwtio diweddar i Seren Lodge wedi llwyddo i ddenu saith o bobl o Gymru, pedwar ohonynt yn siaradwyr Cymraeg.
Comisiynodd Llywodraeth Cymru y Cyd-bwyllgor Comisiynu a Choleg Brenhinol Seiciatryddion Cymru i werthuso'r galw presennol a'r galw a ragwelir am wasanaethau iechyd meddwl i gleifion mewnol mewn unedau mamau a babanod yng Nghymru. Mae'r adroddiad ar gael yma: Adroddiad Rhag-weld a Modelu'r Defnydd, Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru a Choleg Brenhinol Seiciatryddion Cymru.
Bydd gwaith yn y dyfodol yn cael ei wneud drwy weithredu'r Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol. Mae datganiad gweledigaeth pedwar yn rhoi manylion am weithgarwch i ddatblygu gofal di-dor sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ymhellach, gyda chymorth cynllun cyflawni, sy'n cynnwys camau penodol mewn perthynas â chryfhau'r data sydd gennym, drwy'r set ddata graidd iechyd meddwl. Mae hwn yn ddarn cymhleth o waith a fydd yn cael ei gyflwyno mewn dull graddol gyda chyflawniadau clir. Bydd hyn yn sicrhau bod unrhyw ddata sy’n cael eu casglu yn gadarn ac yn addas i’r diben, a bydd yn cynnwys blaenoriaethu data demograffig, megis oedran, rhywedd, dewis iaith ac ethnigrwydd. Rydym hefyd yn ymrwymo i ddatblygu cynllun blaenoriaethu ar gyfer cyfalaf ac ystadau. Bydd argymhellion o adolygiad y Cyd-bwyllgor Comisiynu yn cyfrannu at y cynllun hwn.