Pa arian ychwanegol y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gael ar gyfer polisïau tai yn dilyn adolygiad gwariant Llywodraeth y DU?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
| Wedi'i ateb ar 01/07/2025
Rydym wrthi’n adolygu goblygiadau manwl yr Adolygiad Gwariant o ran ein gwaith cynllunio cyllidebau. Bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu sut i wario cyllid canlyniadol fel rhan o’r broses gyllidebol arferol. Byddwn yn amlinellu’r dull o ran ein cyllideb nesaf maes o law.