A oes angen i Lywodraeth Cymru gymeradwyo gorchymyn pwrcas gorfodol yn y broses o awdurdodau lleol yn prynu eiddo a thir ar gyfer tai?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
| Wedi'i ateb ar 04/07/2025
Mae rôl Gweinidogion Cymru mewn perthynas ag awdurdod lleol yn prynu tir neu eiddo yn orfodol at ddibenion darparu tai wedi'i nodi, yn benodol, yn Neddf Tai 1985, gyda darpariaethau eraill wedi’u nodi yn Neddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.
Sylwch y gallai fod pwerau ehangach eraill a allai hefyd fod yn ymwneud â rôl Gweinidogion Cymru pan fydd awdurdod lleol yn caffael tir neu eiddo yn orfodol.