WQ96524 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/06/2025

A wnaiff y Comisiwn ddarparu dadansoddiad llawn o'r holl gostau sy'n gysylltiedig â meddalwedd TG, cyfrifiaduron, sgriniau, meicroffonau ac unrhyw dechnoleg arall a brynwyd i Aelodau ac eraill sy'n bresennol yn Siambr dros dro y Senedd, gan nodi pa rai fydd yn cael eu hadleoli'n uniongyrchol i siambr estynedig newydd y Senedd?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 24/06/2025

Hefin David AS ar ran Comisiwn y Senedd:

Mae’r galedwedd a’r feddalwedd TGCh a ddefnyddir yn Siambr Hywel i helpu gyda’r gwaith o gynnal y Cyfarfod Llawn tra bod y prif Siambr yn cael ei ehangu yn gyfuniad o offer presennol a drosglwyddwyd o’r brif Siambr ac offer newydd.

Lle bynnag y bo modd, bydd offer naill ai'n cael ei symud yn ôl i’r brif Siambr, yn aros yn Siambr Hywel i gynorthwyo gyda gweithrediadau parhaus yn y gofod hwnnw, neu ei ailddefnyddio mewn mannau eraill ar draws y Senedd.

Mae’r tabl canlynol yn dangos yr offer, y gost a’r defnydd arfaethedig ar ôl i’r brif Siambr gael ei hailagor. Lle mae offer presennol wedi symud o’r brif Siambr, dangosir y gost fel £0.00.

Disgrifiad

Defnydd

Cyfanswm

Gan gynnwys TAW

A fydd yr eitem yn cael ei hail-leoli i’r Siambr estynedig?

Os na chaiff ei defnyddio yn y Siambr estynedig, a gaiff ei hail-leoli mewn man arall ac ar gyfer beth?

Monitor Lenovo ThinkVision 15"

62 x monitor ar gyfer desgiau Aelodau

£11,907.72

Na

Bydd - bydd y monitorau hyn yn cael eu hail-leoli i staff y Comisiwn yn ôl yr angen.

Monitor Hanspree 21"

10 x i'w defnyddio ar y ddesg flaen, sgriniau ar gyfer cyfrifiaduron personol a monitorau ffrwd Zoom

£1,980.51

Na

Bydd - caiff ei ddefnyddio ar gyfer staff y Comisiwn pan fo angen

Addaswyr a cheblau ar gyfer monitorau Lenovo

I gysylltu monitorau Lenovo â byrddau gwaith siambr yr Aelodau

£1,984.99

Na

Bydd - bydd yn cael ei ddefnyddio pan fydd monitorau Lenovo yn cael eu hail-leoli 

Hidlydd preifatrwydd 3M 15"

20 x sgriniau preifatrwydd ar gyfer monitorau Aelodau sydd mewn llinell uniongyrchol â’r oriel wylio gyhoeddus

£626.47

Na

Bydd - caiff ei ail-roi ar gais i’w ddefnyddio gyda gliniaduron sgrin 13".

Hidlydd Gwrth-ddisgleirdeb 3M 21"

6 x hidlwyr gwrth-ddisgleirdeb ar gyfer monitorau'r ddesg flaen

£360.00

Na

 Bydd – Ailddefnyddir yn ôl yr angen ar draws y Senedd.

4 hwb porth USB

80 x 4 hwb porth USB i ddarparu porth ar gyfer bysellfwrdd, llygoden a galluogi gwefru dyfeisiau cludadwy

£605.22

Na

 Na – Ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer defnydd cyffredinol oherwydd ystyriaethau diogelwch. 

Ceblau USB A i Micro USB

30 cebl hirach i alluogi plygio llygoden ddiwifr i mewn i hwb USB

£28.08

Na

Bydd - bydd cebl gwefru USB safonol yn cael ei ddefnyddio at sawl diben

Bwrdd gwaith HP

66 o gyfrifiaduron, Aelodau a’r ddesg flaen - wedi'u trosglwyddo o’r Siambr

£0

Na

Na - bydd y cyfrifiaduron bwrdd gwaith yn 7 oed yn 2026 ac yn bryd eu disodli. Bydd yn cael eu gwaredu drwy gontract gwaredu WEEE y Senedd.

Bysellfyrddau Tawel

Wedi'i drosglwyddo o’r Siambr

£0

Na

Gliniaduron i'w defnyddio yn y Siambr estynedig gyda bysellfwrdd adeiledig. Gellir cadw bysellfyrddau os oes angen bysellfwrdd yn y Siambr ac os bydd digon o le

Bysellfyrddau Iechyd a Diogelwch HP

Wedi'i drosglwyddo o’r Siambr

£0

Na

Gliniaduron i'w defnyddio yn y Siambr estynedig gyda bysellfwrdd adeiledig. Mae bysellfyrddau'n safonol felly os ydyn nhw'n dal i weithio gellir eu defnyddio ar gyfer defnyddwyr eraill.

Llygoden ddi-wifr

Wedi'i drosglwyddo o’r Siambr

£0

Na

Gellir ei adleoli i rywun sy'n gofyn am lygoden ddi-wifr oherwydd cyfyngiadau lle.

Switsh Rhwydwaith

I gefnogi'r capasiti cynyddol

£11,023.83

Na

 Bydd – bydd yn cael ei ailddefnyddio yn swyddfeydd estynedig yr Aelodau ar lawr 2A Tŷ Hywel.

WAP

I gefnogi'r capasiti cynyddol

£956.28

Na

 Bydd – bydd yn cael ei ddefnyddio yn swyddfeydd estynedig yr Aelodau ar lawr 2A Tŷ Hywel.

Ceblau Seilwaith ac Amrywiolion

 

£7,183.45

Na

 Dd/B

Gwaith y tu allan i oriau arferol

 

£640.98

 

Dd/B

System rheoli cyfarfodydd DIS, system ochr gefn a seilwaith

Wedi'i drosglwyddo o’r Siambr

£0.00

Na

Bydd yn aros yn Siambr Hywel i gael ei ddefnyddio gan y tîm Addysg.

Cymorth ar y Safle System Gynhadledd y Senedd (Shure)

Ymgynghoriaeth i ffurfweddu darlledu'r system ochr gefn DIS a symudwyd

 £2,440.00

Na

 Dd/B

Monitor a braced 15 modfedd Beetronics

Monitor cerdyn drws ar gyfer Siambr Hywel

£424.80

Na

Bydd, ei ail-leoli mewn mannau eraill fel rhan o offer digwyddiadau AV

Ceblau - HDMI a Phŵer

Ceblau estynedig ar gyfer arddangosfeydd yn Siambr Hywel a'r oriel gyhoeddus

£144.84

Na

Bydd, mewn ystafelloedd cyfarfod newydd

Desg sain Allen & Heath SQ5 a cherdyn Dante

Desg sain ar gyfer cymysgu sain o feicroffonau cynrychiolwyr Siambr Hywel a meicroffonau amgylchynol ar gyfer darlledu

£3,798.86

Bydd

 

Micro-drawsnewidyddion Blackmagic Design (SDI-HDMI) x 10

Darparu ffrydiau fideo i sgriniau teledu ac arddangosfeydd cloc yn Siambr Hywel a'r ardaloedd cysylltiedig

£825.00

Bydd

 

Rheiddiadur Is-goch Bosch Integrus

Ar gyfer system ddehongli isgoch a ddefnyddir yn yr oriel gyhoeddus

£0.00

Bydd

 

Derbynyddion ‘beltpack’ Bosch Integrus

Ar gyfer system ddehongli isgoch a ddefnyddir yn yr oriel gyhoeddus

£0.00

Bydd

 

Teleduon Oriel Gyhoeddus - 50" Samsung Q60 x2

Teledu yr oriel gyhoeddus

£0.00

Na

Bydd yn cael ei ailddefnyddio yn Nhŷ Hywel

Teledu Canolog y Siambr - 55" Samsung x 2

Teledu uwchben desg y Llywydd

£0.00

Na

Bydd yn cael ei ailddefnyddio yn Nhŷ Hywel

Monitorau ‘cloc’ y Siambr - Samsung 32" x 4

Arddangosfeydd cloc ar bileri Siambr Hywel

£0.00

Na

Bydd yn cael ei ailddefnyddio yn y Senedd neu yn Nhŷ Hywel

Teledu ‘ystafell aros’ Oriel Gyhoeddus - Samsung 65" x 1

Ar gyfer monitro trafodion byw

£0.00

Na

Bydd yn cael ei ailddefnyddio yn Nhŷ Hywel

Teledu mynediad y Siambr - 55" Samsung x 1

Ar gyfer monitro trafodion byw

£0.00

Na

Bydd yn cael ei ailddefnyddio yn Nhŷ Hywel

Teledu Ystafell Gymorth TG - Samsung 65" x 1

Ar gyfer monitro trafodion byw

£0.00

Na

Bydd yn cael ei ailddefnyddio yn Nhŷ Hywel

Uchelseinyddion teils nenfwd Shure x 4

Atgyfnerthu sain yn yr oriel gyhoeddus

£0.00

Na

Bydd yn cael ei ailddefnyddio mewn ystafelloedd cyfarfod hybrid newydd, Tŷ Hywel

Prosesydd sain Shure P300

Llwybr ffrydiau sain i siaradwyr oriel gyhoeddus

£0.00

Na

Bydd yn cael ei ailddefnyddio mewn ystafelloedd cyfarfod hybrid newydd, Tŷ Hywel

Meicroffonau arae nenfwd Shure MXA910 x 2

Meicroffonau ar yr ymylon ar gyfer Siambr Hywel

£0.00

Na

Bydd yn cael ei ailddefnyddio mewn ystafelloedd cyfarfod hybrid newydd, Tŷ Hywel

Siambr Hywel - Platfform cynhyrchu fideo darlledu

Cynhyrchu'r holl ffrydiau darlledu ar gyfer y Cyfarfod Llawn hybrid yn Siambr Hywel

£148,168.54

Bydd

 

Camerâu darlledu Panasonic AW-UE160 (x 11), trwyddedau, switshis

Camerâu darlledu ar gyfer Siambr Hywel ac ar gyfer y Siambr newydd

£148,969.31

Bydd

 

Cebl pentyrru 3 metr

I gysylltu switshis rhwydwaith ychwanegol

£252.04

Bydd

 

Costau llafur darlledu ac AV.

Gosod a ffurfweddu systemau darlledu a cheblau cysylltiedig ar gyfer Siambr Hywel.

£29,985

Dd/B

 

68 x Unedau Cynrychiolwyr Cynhadledd Shure gyda meicroffonau ar y desgiau

Meicroffonau aelodau

£0.00

Na

Bydd yn cael ei ddefnyddio yn Siambr Hywel ac fel system gynadledda cyfarfodydd o bell y Senedd

Cyfanswm

£372,305.92