A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar yr ymrwymiad i ymgynghori ar reoliadau safonau'r Gymraeg ar gyfer cymdeithasau tai yn y gwanwyn?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
| Wedi'i ateb ar 10/06/2025
Rydym yn bwriadu cyhoeddi ymgynghoriad ar Reoliadau drafft Safonau’r Gymraeg ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig cyn diwedd mis Mehefin. Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau mewn Datganiad Ysgrifenedig unwaith y bydd yr ymgynghoriad ar agor.