WQ96497 (w) Wedi’i gyflwyno ar 27/05/2025

A yw unrhyw un o'r cynhyrchion mislif sydd ar gael yn rhad ac am ddim yn unol a'r Cynllun Gweithredu Cymru sy'n Falch o'r Mislif yn rhydd o gemegau gwenwynig posibl megis ffthalatau, ffenolau, parabens a sylweddau polyfflworoalcyl (PFAS)?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 12/06/2025

Fel rhan o’n Cynllun Cymru sy'n Falch o'r Mislif, rydym yn cynyddu’r ddarpariaeth o gynhyrchion mislif o un flwyddyn i’r nesaf. Erbyn 2027, bydd 90-100% o’r cynhyrchion a ariennir gan ein grant urddas mislif yn rhydd o blastig, neu’n gynhyrchion sydd â llai o gynnwys plastig, llai o ddeunydd pecynnu plastig, a llai o ddeunydd pecynnu cyffredinol, neu’n gynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio.  

Ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-2025, roedd dros 93% o’r cynhyrchion mislif a brynwyd drwy’r grant urddas mislif yn ecogyfeillgar.

Fel rhan o’r grant urddas mislif, rydym yn deall bod awdurdodau lleol yn prynu cynhyrchion sy’n rhydd o gemegion. Nid oes gennym y manylion llawn ar hyn o bryd, ond rydym wedi gwneud gofyn i arweinwyr urddas mislif ym mhob awdurdod lleol ddarparu’r wybodaeth hon inni.