WQ96496 (w) Wedi’i gyflwyno ar 28/05/2025

Yng nghyd-destun y Cynllun Iechyd Menywod Cymru a lansiwyd yn Rhagfyr 2024, sydd yn cynnwys iechyd mislif, a roddwyd unrhyw ystyriaeth i'r defnydd o gemegau mewn cynhyrchion mislif sy’n gallu tarfu ar system endocrin, gan gynnwys ffthalatau, ffenolau a pharabens, yn ogystal â 'chemegau am byth' megis sylweddau polyfflworoalcyl (PFAS)?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant | Wedi'i ateb ar 12/06/2025

Cynllun Iechyd Menywod y GIG yw ymateb y GIG i’r Datganiad Ansawdd ar gyfer Iechyd Menywod a Merched. Mae’n canolbwyntio ar feysydd blaenoriaeth penodol lle nodwyd bod angen gwella darpariaeth gwasanaeth. Mae iechyd mislif yn un o’r meysydd blaenoriaeth gydag wyth cam gweithredu allweddol. 

Mae gan y DU fframwaith rheoleiddio cynhwysfawr ar waith i sicrhau bod cynnyrch yn ddiogel cyn cael eu rhoi ar y farchnad. Mae cynnyrch mislif yn cael eu rheoleiddio gan Reoliadau Diogelwch Cynnyrch Cyffredinol 2005. 

Edrychwch ar yr ymateb i WQ96497.