WQ96422 (w) Wedi’i gyflwyno ar 13/05/2025

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol neu Chwaraeon Cymru wedi'u cael gydag Undeb Rygbi Cymru ynghylch y bwriad i ddiddymu swyddi’r swyddogion hwb, a beth oedd canlyniadau'r trafodaethau hynny?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol | Wedi'i ateb ar 23/05/2025

Mae Undeb Rygbi Cymru (URC), fel y Corff Llywodraethu Cenedlaethol ar gyfer rygbi yng Nghymru, yn sefydliad annibynnol a bydd yn gwneud ei benderfyniadau gweithredol ei hun. Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau gydag URC ar y mater hwn.