WQ96299 (w) Wedi’i gyflwyno ar 28/04/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i sicrhau fod gorsaf drên Llanfairpwll yr un mor hygyrch i bawb?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru | Wedi'i ateb ar 08/05/2025

Rydym yn cefnogi Rhaglen Mynediad i Bawb yr Adran Drafnidiaeth sy’n cyflwyno gwelliannau o ran hygyrchedd o fewn gorsafoedd yng Nghymru sy’n eiddo i Lywodraeth y DU. Yn anffodus, deallaf nad yw gorsaf drenau Llanfairpwll wedi’i datblygu fel rhan o gylch diweddaraf y Rhaglen Mynediad. Rwyf, fodd bynnag, wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru ystyried gwelliannau o ran hygyrchedd yn yr orsaf hon fel rhan o unrhyw gyflwyniadau i gylchoedd pellach o’r Rhaglen Mynediad.