WQ96211 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/04/2025

Faint o staff Comisiwn y Senedd sy'n ennill dros £100,000 y flwyddyn pro rata a beth yw cyfanswm y gwariant ar gyflogau staff Comisiwn y Senedd sy'n ennill £100,000 neu fwy y flwyddyn pro rata?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 11/04/2025

Y Llywydd ar ran Comisiwn y Senedd:

Ar hyn o bryd, mae pump o staff Comisiwn y Senedd yn ennill dros £100,000 y flwyddyn pro rata.

Yn seiliedig ar y graddfeydd cyflog cymwysadwy, cyfanswm y gwariant blynyddol ar gyflogau’r staff hyn yw £514,269 - £648,580 y flwyddyn (ac eithrio costau eraill).

Caiff y wybodaeth hon ei gwneud yn hysbys bob blwyddyn drwy Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn.