WQ96120 (w) Wedi’i gyflwyno ar 31/03/2025

Pryd fydd argymhellion y grŵp tasg a gorffen ar gynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol yn cael eu cyhoeddi?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai | Wedi'i ateb ar 11/04/2025

Mae argymhellion y Tasglu Tai Fforddiadwy yn y broses o gael eu cwblhau’n derfynol, ac rwy’n disgwyl eu cael gan Gadeirydd y Tasglu, Lee Waters AS, erbyn diwedd y mis hwn. Byddaf wedyn yn rhannu’r argymhellion â’r Aelodau drwy ddatganiad ysgrifenedig.