Pa gamau paratoadol mae'r Comisiwn yn eu cymryd i sicrhau bydd statws a defnydd y Gymraeg yn cael ei ddiogelu a'i ehangu yng ngwleidyddiaeth a thrafodion y Seithfed Senedd?
Mae Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â’r defnydd o’r Gymraeg a’r Saesneg yn nhrafodion y Senedd ac wrth i Gomisiwn y Senedd gyflawni ei swyddogaethau. Mae’r ddeddf yn sefydlu’r angen i’r ddwy iaith gael eu trin yn gyfartal yn nhrafodion y Senedd, yn ogystal â hawl unigolion i ddefnyddio eu dewis iaith swyddogol mewn trafodion. Mae’n ofyniad statudol hefyd i Gomisiwn y Senedd fabwysiadu a chyhoeddi Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer pob Senedd.
Wrth i ni agosáu at ddiwedd y chweched Senedd, bydd y gwaith o gynllunio’r broses o drosglwyddo i’r seithfed Senedd yn cychwyn. Rhan o’r broses fydd gweithio ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol drafft i’w gytuno mewn Cyfarfod Llawn gan Aelodau’r Seithfed Senedd. Bydd swyddogion yn ymgynghori ag Aelodau a Staff Cymorth y chweched Senedd i gael eu barn ar y cynllun presennol ac unrhyw newidiadau fyddai’n cryfhau’r ddarpariaeth gwasanaethau dwyieithog ar gyfer y seithfed Senedd.
Nod y Cynllun Ieithoedd Swyddogol yw sicrhau bod Aelodau o’r Senedd, a’u staff cymorth yn rhydd i ymgymryd â’u gwaith yn eu dewis iaith swyddogol. Yn ymarferol mae hyn yn golygu y bydd Comisiwn y Senedd yn darparu gwasanaethau i Aelodau a’u Staff cymorth yn ddiofyn yn eu dewis iaith, ac yn chwilio am ffyrdd o wella’r ddarpariaeth yn barhaus.
Mae Comisiwn y Senedd yn cynnal arolwg sgiliau iaith Gymraeg o leiaf unwaith ym mhob Senedd er mwyn sicrhau bod y sgiliau priodol gan staff ar draws pob gwasanaeth i hwyluso gweithio dwyieithog. Yn ogystal, fel rhan o’r broses o gynllunio capasiti ar draws gwasanaethau, mae’n ofynnol i bod gwasanaeth gadw cynllun iaith gwasanaeth ar gyfer asesu a chofnodi sgiliau iaith Gymraeg. Caiff pob swydd a hysbysebir ei hasesu hefyd i sicrhau bod unrhyw ofynion sgiliau iaith Gymraeg wedi eu cynnwys yn y disgrifiad swydd. Mae gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer pob swydd gyda Chomisiwn y Senedd, yn amrywio o lefel Cwrteisi i lefel 5, a gellir gweld disgrifiad o’r lefelau hyn ym Matrics Sgiliau Iaith y Comisiwn (https://senedd.wales/media/sm2jznsi/skills-matrix.pdf). Mae hyn oll yn sicrhau bod Comisiwn y Senedd yn gallu cefnogi a hwyluso defnydd o’r Gymraeg yn ddiofyn.
Mae’r Tîm Ieithoedd Swyddogol hefyd yn darparu hyfforddiant datblygu neu wella sgiliau iaith i Aelodau, eu staff cymorth a staff Comisiwn y Senedd. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth benodol ar gyfer siaradwyr Cymraeg sy’n dymuno gwneud mwy o ddefnydd o’u sgiliau iaith naill ai ar lafar neu yn ysgrifenedig. Gall y tîm ddarparu hyfforddiant wedi’i deilwra i unigolion neu grwpiau hefyd yn ôl y gofyn.
Mae ein hieithoedd swyddogol yn rhan allweddol o’r gwaith cynllunio ehangach ar gyfer y seithfed Senedd hefyd. Mae cynrychiolaeth o’r Tîm Ieithoedd Swyddogol ar Fwrdd prosiect y Seithfed Senedd er mwyn sicrhau trosolwg o’r holl ddatblygiadau a newidiadau sy’n digwydd. Fel rhan o’r gwaith hwn hefyd, byddwn yn edrych ar y fframwaith ieithoedd swyddogol i sicrhau ei fod yn addas i bwrpas ar gyfer y Seithfed Senedd, ac yn gweithio ar ddull o sicrhau ein bod yn casglu gwybodaeth gywir am ddymuniadau ieithyddol Aelodau wrth iddynt fynd drwy’r broses gynefino yn ystod eu dyddiau cynnar fel Aelodau etholedig.