WQ96051 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/03/2025

Beth yw’r cap gwariant ar bryniannau unigol ar gardiau caffael Llywodraeth Cymru cyn bod angen cymeradwyaeth gan uwch-swyddog?

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog | Wedi'i ateb ar 27/03/2025

Mae gan bob cerdyn caffael Llywodraeth Cymru derfyn trafodiad unigol o fewn yr ystod o £250 - £20,000 a therfyn gwariant misol o fewn yr ystod o £500 - £25,000. Mae trafodiadau sy’n rhagori ar y terfynau yn cael eu gwrthod yn awtomatig.

Cyn defnyddio cerdyn caffael Llywodraeth Cymru, rhaid i ddeiliad y cerdyn ddilyn polisïau Caffael a Theithio a Chynhaliaeth Llywodraeth Cymru a chael unrhyw gymeradwyaeth ychwanegol gan uwch-swyddog fel sy’n ofynnol o dan y polisïau hynny.

Yn ogystal â hynny, mae pob trafodiad unigol yn cael ei adolygu’n ôl-weithredol a’i gymeradwyo’n fisol gan gymeradwywr trafodiadau, sy’n gweithio ar radd uwch na deiliad y cerdyn, neu os nad yw hyn yn bosibl, gan y Pennaeth Cyllid.