WQ96043 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2025

Ymhellach i WQ95826, faint o staff y Comisiwn a oedd yn bresennol yn Nhŷ Hywel ar 14 Mawrth 2025, wedi’i ddadansoddi yn ôl y gofod swyddfa a ddyrennir ar gyfer pob gwasanaeth a chan nodi’r uchafswm capasiti ar gyfer pob gofod?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 04/04/2025

Y Llywydd ar ran Comisiwn y Senedd:

Cesglir y data drwy ddulliau rheoli mynediad i’r adeilad ac mae’n cwmpasu pob math o ddiwrnodau yn ystod y tymor / toriadau a Gwyliau Banc / Diwrnodau Braint.

Caiff y data ei gymharu â chyfanswm y desgiau sydd ar gael i bob maes gwasanaeth gyda rhai meysydd gwasanaeth yn cynnwys staff nad ydynt yn gweithio wrth ddesgiau. Mae niferoedd gofod y desgiau hyn yn adlewyrchu'r newidiadau a wnaed yn ddiweddar i leihau ardaloedd staff y Comisiwn yn sylweddol er mwyn gallu darparu ar gyfer swyddfeydd a lle ar gyfer 36 o Aelodau ychwanegol a'u staff o fis Mai 2026 ymlaen.

Mae'r data ar gyfer staff y Comisiwn yn unig ac nid yw'n cynnwys Aelodau o'r Senedd a'u staff, gweithwyr Llywodraeth Cymru na Chontractwyr ar y safle

Dangosl yw’r data hyn ac ni ddylid eu darllen fel data pendant.

Maes Gwasanaeth

Uchafswm Capasiti yn unol â chyfanswm y cyfrif desgiau

Data rheoli mynediad Dydd Gwener 14eg Mawrth 2025

Llawr Gwaelod

 

 

Diogelwch

N/A

40

Rheoli Ystadau a Chyfleusterau

16

13

Llawr 1A

 

 

Ymchwil

28

0

Y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi

16

3

Cyfreithiol

12

2

Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth / Gwasanaeth Ysgrifenyddiaeth y Siambr

46

7

Y Gwasanaeth Trawsnewid Strategol

10

1

Llawr 4A

 

 

Cyfathrebu

15

0

Ymgysylltu

22

15

Cyllid

4

1

Llywodraethu ac Archwilio

6

0

Adnoddau Dynol

14

3

TGCh

28

7

Swyddfa Weithredol (gan gynnwys Cyfarwyddwyr) a Chymorth Busnes i’r Aelodau (4B)

33

6