Pryd fydd adroddiad ar yr adolygiad a gomisiynwyd gan yr Ysgrifenydd Cabinet drwy'r Cydbwyllgor Comisiynu i asesu’r angen am ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yng ngogledd Cymru, a oedd i fod wedi ei gwblhau erbyn diwedd mis Chwefror 2025, ar gael?
Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
| Wedi'i ateb ar 25/03/2025
Mae adolygiad cynhwysfawr o'r ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru wedi'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w adolygu cyn ei gyhoeddi. Rwyf wrthi’n ystyried yr adroddiad, gyda golwg ar ei gyhoeddi ar ôl y Pasg.