WQ95980 (w) Wedi’i gyflwyno ar 10/03/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ynghylch cynlluniau Rhentu Doeth Cymru i agor swyddfa yn y gogledd a pha leoliad neu leoliadau sydd dan sylw ar gyfer y swyddfa honno?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai | Wedi'i ateb ar 20/03/2025

Mae Rhentu Doeth Cymru yn rhan o Gyngor Caerdydd, sef yr Awdurdod Trwyddedu dynodedig o dan Ddeddf Tai Cymru 2014.

Mater i Rhentu Doeth Cymru, felly, yw materion gweithredol a phenderfyniadau am leoliadau swyddfeydd.